Datblygu Polisi
Fel y dywedwyd yn Strategaeth Gwrth-fwlïo Torfaen 08/10, mae’n hanfodol bod gan yr holl leoliadau plant bolisi gwrth-fwlïo. Bydd polisi gwrth-fwlïo da yn rhoi dealltwriaeth ar y cyd i’r holl staff, pobl ifanc a rhieni o beth yw bwlïo a sut yr ymdrinnir ag ef. Yn ogystal, gall fod yn ddefnyddiol gofyn i’r holl bobl ifanc i arwyddo siarter gwrth-fwlïo, a ellid ei arddangos mewn lle amlwg. Medrwch lawrlwytho copi o batrymlun siarter gwrth-fwlïo yma.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu pecyn adolygu polisi i ysgolion. Rhoddir y prif benawdau isod:
- Ymgynghori
- Y diffiniad o fwlïo
- Adnabod ymddygiad sy’n fwlïo
- Strategaethau ar gyfer yr ysgol
- Strategaethau ar gyfer rhieni
- Strategaethau ar gyfer plant a phobl ifanc
- Gweithdrefnau
- Amserlen ar gyfer datblygu ac adolygu
Mae hefyd yn bwysig fod lleoliadau plant yn Nhorfaen yn cyfeirio at yr ‘argymhellion allweddol’ a restrwyd yn Strategaeth Gwrth-fwlïo Torfaen 08/10, wrth ddatblygu ac adolygu polisïau gwrth-fwlïo. Mae copi o’r strategaeth ar gael ar dudalen Strategaeth Torfaen y wefan.