Cynghorion gorau
Fel rhiant, cynhaliwr neu warcheidwad, rydych yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu eich plentyn rhag bwlïo. Mae’r cynghorion isod yn gymorth i grynhoi eich rôl:
- Byddwch yn ymwybodol o beth yw bwlïo a byddwch yn effro i’r arwyddion a’r symptomau
- Trafodwch fwlïo, hyd yn oed pan nad yw’n effeithio ar eich teulu, fel bod eich plant yn deall beth yw bwlïo a beth i’w wneud ynglyn â’r peth
- Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall ddweud wrthych am unrhyw beth sy’n ei ofidio
- Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod at bwy mae troi i drafod unrhyw bryderon yn yr ysgol neu mewn lleoliad ieuenctid
- Cefnogwch eich plentyn a gweithiwch gyda’r oedolyn â gofal i helpu i roi diwedd ar y bwlïo
- Byddwch yn batrwm ymddwyn da
- Helpwch eich plentyn i ddeall a pharchu’r hyn sy’n wahanol
- Peidiwch byth â dweud wrth eich plentyn am daro’n ôl, bydd hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i roi diwedd ar y bwlïo
- Casglwch dystiolaeth o fwlïo os medrwch chi (e.e. cadwch/argraffwch negeseuon cas)
- Mynnwch gyngor a chymorth oddi wrth eich teulu, eich ffrindiau, llinellau cymorth a gwefannau
Yn ogystal, gwelwch Sut fedraf i gynorthwyo fy mhlentyn?
Gallwch lawrlwytho peth cyngor da a roddir gan elusennau isod: