Mae fy mhlentyn yn bwlio eraill?
Gall fod yn anodd iawn cyfaddef fod eich plentyn yn bwlïo plentyn arall. Os credwch fod eich plentyn yn bwlïo plentyn arall, mae angen i chi siarad â’ch plentyn a rhoi cyfle iddo/iddi i ddweud wrthych beth sy’n digwydd. Mae’n bwysig eich bod yn esbonio eich bod yn dal i’w garu ef/charu hi, ond nad yw’r ymddygiad hwn yn dderbyniol.
Mae’n bosib bydd angen i chi gychwyn trwy edrych ar eich bywyd teuluol. Weithiau mae anawsterau yn y cartref (e.e. chwalfa’r teulu, cam-drin yn y cartref, dadlau) yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y bydd plentyn yn bwlïo plentyn arall. A ydi eich plentyn yn gwybod beth yw bwlïo a pha mor niweidiol mae’n medru bod i eraill? Os ydynt yn cyfaddef eu bod yn bwlïo plentyn arall, byddant angen eich cymorth i ddeall pam eu bod yn gwneud hyn a sut fedrant roi diwedd ar y bwlïo.
Mae plant yn bwlïo am lawer o resymau. Gallai fod oherwydd eu bod yn teimlo mewn perygl, a bod pigo ar blant eraill yn gwneud iddynt i deimlo’n fwy ‘poblogaidd’. Gallai fod oherwydd eu bod yn ddig ac wedi siomi ynghylch rhywbeth, felly maent yn beio rhywun arall. Gallai fod pwysau cyfoedion yn gwneud iddynt i fwlïo, er nad ydyn nhw eisiau gwneud. Neu, yn syml, gallai fod oherwydd nad ydynt yn deall canlyniadau eu hymddygiad. Beth bynnag y bo’r rheswm, mae’n bwysig eich bod yn ceisio darganfod pam eu bod yn ymddwyn yn y fath fodd. Yna, medrwch ddechrau helpu i newid eu hymddygiad.
Sicrhewch eich bod chi yn:
- Cymryd bwlïo o ddifrif
- Dysgu plant i barchu pawb
- Modelu ymddygiad da
- Cymryd diddordeb ym mywyd cymdeithasol eich plentyn
- Cymell ymddygiad da
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar:
Yn ogystal, gwelwch ble fedraf i gael cymorth?