Canllawiau Arfer Da
Mae angen i’r holl waith a gynlluniwyd i atal a herio bwlïo i gael ei gyfarwyddo gan arfer da, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ymchwil wedi canfod nifer o gynlluniau ataliol ac ymatebol a ellir eu defnyddio’n effeithiol i anghefnogi bwlïo a hyrwyddo perthynas gadarnhaol rhwng cyfoedion.
"Rydym ni angen ymagwedd gyson at daclu bwlïo, ble mae pawb yn gwybod beth yw bwlïo a sut i ymdrin ag ef.” Athro
"Mae angen i ni daclu bwlïo o bob ongl". Gweithiwr Ieuenctid
Wythnos Gwrth-fwlio
Ymgyrch genedlaethol yw Wythnos Gwrth-fwlïo, a gynhelir bob blwyddyn tua diwedd mis Tachwedd
Creu Ymwybyddiaeth
Mae gweithgareddau gwrth-fwlïo rheolaidd yn medru helpu i sicrhau fod gan bawb ddealltwriaeth gyfrannol o beth yw bwlïo a sut y dylid ymdrin ag ef
Cylchoedd o Ffrindiau a Grwpiau Cefnogi
Gellir sefydlu rhwydwaith gefnogi i feithrin perthnasau o amgylch plentyn/person ifanc sy’n agored i niwed
Gwaith Grwp Cydweithredol a SEAL
Gellir defnyddio gweithgareddau penodol i gymell plant a phobl ifanc i weithio gyda’i gilydd o oed cynnar. Mae hyn yn medru datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth a pharch at wahaniaeth
Darllen Pellach
Darllen Pellach
Cefnogi Cyfoedion
Ar ei lefel symlaf, mae cefnogi cyfoedion yn ymwneud â gwneud plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a bod ganddynt gefnogaeth eu cyfoedion. Mewn ysgolion, mae’n ymwneud â rhoi’r grym i ddisgyblion i ymdrin ag amrywiaeth eang o broblemau sydd gan ddisgyblion eraill o bosib, o bontio i broblemau teuluol i fwlïo
Reportio a Chofnodi
Os ydym ni am lwyddo wrth daclu bwlïo, mae’n hollbwysig fod yr holl ddigwyddiadau o fwlïo’n cael eu cofnodi, eu reportio a’u gweithredu yn eu cylch yn briodol
Hunan-barch a gwydnwch
Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu bwlïo, neu sydd mewn perygl o gael eu bwlïo, yn cael eu cyfarparu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i ymdrin ag ef. Gellir dysgu ffyrdd newydd o ymddwyn i blant a phobl ifanc, a fydd yn rhoi iddynt strategaethau i ymdopi â bwlïo
Arfer Adferol
Dull cymharol newydd yw arfer adferol, yn deillio o’r system cyfiawnder troseddol, sy’n rhoi fframwaith i oedolion i hybu gwneud yn iawn cyn belled ag sy’n bosib yn dilyn digwyddiad o fwlïo