Cylchoedd o Ffrindiau a Grwpiau Cefnogi
Cylch o Ffrindiau
Gellir sefydlu rhwydwaith gefnogi i feithrin perthnasau o amgylch plentyn/person ifanc sy’n agored i niwed. Mae canllawiau’r Cynulliad Cymreig (2003) yn datgan bod yn rhaid esbonio’r dull cylch o ffrindiau i’r unigolion a’r rhieni/cynhalwyr yn gyntaf, oherwydd bod eu cytundeb a’u cefnogaeth yn hanfodol. Os yn yr ysgol, mae oedolyn hyfforddedig yn cwrdd â’r dosbarth i drafod sut fydden nhw’n teimlo ac yn ymddwyn petai nhw’n cael eu hynysu a’u heithrio’n gymdeithasol, ac yn ystyried sut fedrant helpu a gwirfoddoli i ffurfio cylch o ffrindiau i’r unigolyn (6-8 o unigolion). Mae’r grwp yn ystyried strategaethau i helpu’r unigolyn, sy’n cael eu cofnodi ac yna’u blaenoriaethu. Mae astudiaethau achos yn cadarnhau bod hwn yn ddull hyblyg a chreadigol o ffurfio perthynasau cadarnhaol gyda chyfoedion a chynyddu’r mewnwelediad i deimladau ac ymddygiad yr unigolyn. Mae Newton a Wilson (1999) yn rhoi canllaw cam wrth gam i’r dull ac maent yn rhestru rhai adnoddau defnyddiol.
Ymagwedd Grwp Cefnogi
Mae’r Ymagwedd Grwp Cefnogi (a gyfeirir ato weithiau fel yr ymagwedd ‘Dim Bai’) yn dilyn y saith cam isod wrth ddatrys achos o fwlïo. Rhoddir pwyslais ar ddod â’r bobl ifanc a fu’n gysylltiedig â’r ymddygiad o fwlïo at ei gilydd a rhannu’r cyfrifoldeb o wneud yn iawn am eu gweithredoedd.
- Cam un – siaradwch â’r dioddefwr
- Cam dau – trefnwch gyfarfod gyda’r rhai a fu’n gysylltiedig
- Cam tri – esboniwch y broblem
- Cam pedwar – rhannwch y cyfrifoldeb, heb feio
- Cam pump – gofynnwch i’r grwp am eu syniadau
- Cam chwech – gadewch iddyn nhw benderfynu
- Cam saith – cwrddwch â’r unigolion eto a gwerthuswch
Dyfynnwyd ystadegau trawiadol gan Young (1998), ble, dros gyfnod o ddwy flynedd, yr ymdriniwyd ag 80% o achosion mewn ysgolion cynradd yn llwyddiannus trwy gyfrwng y dull hwn. Yn 14% o’r achosion, roedd angen tri i bump o adolygiadau cyn y daeth y bwlïo i ben. Dim ond yn 6% o’r achosion y parhaodd yr unigolyn i ddioddef bwlïo. Roedd y canlyniadau mewn ysgolion uwchradd yn debyg.