Gwaith Grwp Cydweithredol a SEAL
Gwaith Grwp Cydweithredol
Gellir defnyddio gweithgareddau penodol i gymell plant a phobl ifanc i weithio gyda’i gilydd o oed cynnar. Mae hyn yn medru datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth a pharch at wahaniaeth. Yn ogystal, mae’n darparu amgylchedd i archwilio materion a dadleuon trwy ystyried gwahanol safbwyntiau, datblygu ymddiriedaeth gyda’r rhyw arall a grwpiau ethnig eraill, a chael eu hintegreiddio’n well i mewn i’r grwp cyfoedion. Os caiff ei gyflawni’n effeithiol, bydd plant a phobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd ac yn helpu ei gilydd wrth reoli gwrthdaro o fewn y grwp. Weithiau mae cydberthynasau gwaith yn datblygu i fod yn gyfeillgarwch go iawn, ac yn gyffredinol mae plant yn fwy goddefgar o eraill ac maent yn fwy parod i wrando (Masheder, 1986). Mae’r rhai hynny sydd mewn perygl o gael eu bwlïo, neu sydd wedi cael eu bwlïo, yn medru cael eu tynnu i mewn i grwpiau gwaith gyda phlant eraill na fydd yn eu cam-drin na’n cymryd mantais ohonynt.
SEAL
Gellir defnyddio’r rhaglen Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu (SEAL) yn effeithiol, i wella deallusrwydd emosiynol yn eang, a’r emosiynau a’r teimladau sy’n ymwneud â bwlïo’n fwy penodol. Mae’n rhoi fframwaith ardderchog i ddysgu i adnabod a rheoli emosiynau mewn modd priodol.