Cefnogi Cyfoedion
Ar ei lefel symlaf, mae cefnogi cyfoedion yn ymwneud â gwneud plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a bod ganddynt gefnogaeth eu cyfoedion. Mewn ysgolion, mae’n ymwneud â rhoi’r grym i ddisgyblion i ymdrin ag amrywiaeth eang o broblemau sydd gan ddisgyblion eraill o bosib, o bontio i broblemau teuluol i fwlïo. Ar lefel ysgol eang, mae cefnogi cyfoedion yn medru gwella’r awyrgylch yn radical, gan alluogi disgyblion i deimlo’n fwy diogel a bod ganddynt fwy o gefnogaeth, a hefyd mae’n ryddhau’r amser a dreulir gan yr athro yn ymdrin ag anghydfodau a chwynion sy’n amlygu yn ystod amser egwyl ar yr un pryd.
Mae gwirfoddolwyr dethol yn ymgymryd â hyfforddiant, yn cynnwys sgiliau gwrando a chyfathrebu, technegau i helpu eraill, cyfrinachedd a chwarae rôl. Ble bod y lefelau o ymosodedd yn uchel, mae’n bosib y bydd cefnogwyr cyfoedion yn ei chael hi’n anodd herio’r diwylliant o fwlïo. Fodd bynnag, ble bod systemau cefnogi cyfoedion wedi eu sefydlu’n gadarn, mae’r ethos yn medru gwella ac mae’r rhai hynny sy’n cael eu bwlïo’n adrodd eu bod yn ei chael hi’n haws siarad â rhywun (Cowie a Wallace, 2000). Mae cynlluniau cefnogi cyfoedion llwyddiannus yn coleddu ethos gwrth-fwlïo, yn rhoi cymorth uniongyrchol i’r rhai hynny sydd ei angen, ac yn hyrwyddo datblygu sgiliau cymdeithasol a hyder yn y rhai hynny sy’n cyfranogi.
Os oes angen mwy o gefnogaeth, mae gwirfoddolwyr yn medru cael eu neilltuo i fod yn ‘ffrind’ neu’n ‘gyfaill’ i gyfoedion y mae gan staff bryderon amdanynt. Mae angen bod y ‘ffrindiau’ yma’n meddu ar rinweddau personol cyfeillgar, i roi cymorth gyda phroblemau emosiynol a chymdeithasol, ac mae’n bosib iddynt rannu anhawster cyffredin - er enghraifft, profedigaeth neu anabledd. Gellir sefydlu clybiau i gynnig cymorth mewn meysydd penodol, ac yn gyffredinol mae’r sawl sy’n derbyn ‘cyfaill’ yn teimlo’n fwy positif amdanyn nhw eu hunain, wedi iddynt gael cyfle i siarad â rhywun am eu problemau. Mae’r ‘ffrindiau’n’ teimlo’n fwy hyderus ac maent yn gwerthfawrogi pobl eraill yn fwy. Fel yr uchod, mae’r ‘ffrindiau’ angen hyfforddiant mewn gwrando gweithgar, pendantrwydd ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, byddant angen cymorth aelod allweddol o staff.