Hunan-barch a gwydnwch

Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu bwlïo, neu sydd mewn perygl o gael eu bwlïo, yn cael eu cyfarparu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i ymdrin ag ef. Gellir dysgu ffyrdd newydd o ymddwyn i blant a phobl ifanc, a fydd yn rhoi iddynt strategaethau i ymdopi â bwlïo. Mae plant a phobl ifanc yn medru dysgu i feddwl amdanyn nhw eu hunain yn wahanol, trwy roi canmoliaeth ac anogaeth i’w hunain.

Gellir defnyddio hyfforddiant pendantrwydd i hybu gwydnwch a chodi hyder. Mewn amgylcheddau diogel a chefnogol, mae unigolion sydd wedi cael eu bwlïo’n medru siarad am eu profiadau a dysgu i ymarfer ymatebion effeithiol. Trwy chwarae rhan, mae plant a phobl ifanc yn medru gwylio sefyllfaoedd damcaniaethol eraill a phenderfynu beth sy’n oddefol, beth sy’n ymosodol a beth sy’n bendant. Mae’r grwp yn medru siarad trwy sefyllfaoedd anodd a thrafod gwahanol ffyrdd o ymdopi. Mae unigolion yn teimlo’n fwy diogel a’u bod mewn rheolaeth, gyda llai o ddicter ac anobaith. Mae ymateb mewn modd niwtral ond uniongyrchol yn tynnu’r gwres allan o sefyllfa. Trwy eistedd mewn cylch, bydd grwp nodweddiadol yn dysgu un dechneg fesul sesiwn. Er enghraifft; gwneud datganiadau pendant; gwrthsefyll ymddygiad ystrywgar a bygythiadau; ymdopi â galw enwau; niwlio a’r record wedi’i thorri; dianc o ataliad corfforol; sicrhau help gwyliedyddion; hybu hunan-barch; ac aros yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd dirdynnol. Yn ogystal, gellir teilwrio sesiynau i edrych ar reoli dicter, datrys gwrthdaro ac ymyrraeth gan wyliedyddion.

Mae yna lawer o raglenni gwaith y gellid eu defnyddio i gynyddu hunan-barch rhywun sydd wedi cael ei fwlïo, ac mae www.kidscape.org.uk yn rhoi cyngor ar lein a gweithdai wyneb yn wyneb. Yn ogystal, mae yna strategaethau a ellid eu defnyddio i osgoi bwlïo eto yn y dyfodol (e.e. y dechneg ‘record wedi’i thorri’ neu ‘niwlio’).

Mae plant a phobl ifanc yn medru dysgu am ymyraethau diogel i’w defnyddio os ydynt yn dod ar draws bwlïo. Mae gwahanol rolau’r gwyliedydd yn cynnwys:

  • Cynorthwywyr, sy’n ymuno ac yn cynorthwyo’r bwli
  • Atgyfnerthwyr, sy’n rhoi atborth cadarnhaol i’r bwli, trwy chwerthin neu ei annog
  • Dieithriaid, sy’n cadw draw, ond maent yn galluogi’r bwlïo i barhau oherwydd eu ‘cymeradwyaeth distaw’
  • Amddiffynwyr, sy’n arddangos ymddygiad gwrth-fwlïo, yn cysuro’r dioddefwr ac yn ceisio rhoi stop ar y bwlïo

Mae creu ymwybyddiaeth o wahanol rolau’r gwyliedydd yn medru helpu pobl ifanc i ddeall beth fedran nhw ei wneud i helpu i roi stop ar fwlïo.