Pam, ble, pryd, pwy?
Pam mae’n digwydd?
Mae bwlïo’n medru digwydd am amryw o resymau. Mae rhai pobl yn bwlïo pobl eraill oherwydd eu bod yn genfigennus, neu oherwydd bod rhywun arall wedi eu bwlïo nhw yn y gorffennol. Mae’n annhebygol iawn fod rhywun sy’n bwlïo pobl eraill yn hapus yn ei fywyd ei hun. Mae llawer o fwlïo’n digwydd oherwydd bod pobl yn wahanol, ac mae rhai pobl yn ofni’r hyn sy’n wahanol.
Dywedodd un ysgol gynradd yn Nhorfaen “mae llawer o bobl yn bwlïo pobl eraill er mwyn edrych yn cwl, ac maent yn ymuno oherwydd bod eu ffrindiau’n eu cymell i wneud”. Mae’n bwysig cofio nad yw bwlïo’n cwl, ac nid yw’n dy wneud di’n boblogaidd.
Ble a phryd mae’n digwydd?
Ni ddylai bwlïo ddigwydd yn unrhyw le, ond mae pobl ifanc yn dweud ei fod yn medru digwydd yn yr ysgol, mewn clwb ieuenctid, yn y parc, yn y ganolfan hamdden neu yn y cartref hyd yn oed. Os weli di rywun yn cael ei fwlïo, cofia ddweud wrth oedolyn â gofal.
Ar bwy mae’n medru effeithio?
Creda neu beidio, mae llawer o bobl enwog iawn wedi dweud iddynt gael eu bwlïo pan oeddent yn ifancach. Mae sêr ffilm megis Tom Cruise, sêr pop megis Victoria Beckham, pêl-droedwyr megis Ryan Giggs a hyd yn oed y bocsiwr pwysau canol Joe Calzaghe, wedi dweud eu bod wedi cael eu bwlïo pan oeddent yn ifancach. Edrychwch mor llwyddiannus maen nhw nawr!
Sut mae’n gwneud i bobl i deimlo?
Mae bwlïo’n brifo. Mae’r mwyafrif o bobl sy’n bwlïo rhywun yn teimlo’n wael yn y bôn, felly mae angen help ar bawb i roi diwedd arno. Os wyt ti’n bwlïo rhywun arall, aros a meddylia pa mor wael wyt ti’n gwneud iddyn nhw i deimlo.