Reportio bwlïo

Dweud wrth oedolyn â gofal am y bwlïo yw’r ffordd orau o roi diwedd arno. Bydd gweithio gyda nhw’n ei gwneud hi’n haws i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio.

Reportio bwlïo mewn ysgol neu leoliad ieuenctid

Os ydych yn dymuno gwneud honiad o fwlïo, mae’n bwysig eich bod yn:

  • Aros yn ddigynnwrf a’ch bod yn trefnu cyfarfod gyda’r ysgol neu’r lleoliad ieuenctid
  • Trafod y mater a’ch bod yn edrych trwy eu polisi gwrth-fwlïo
  • Cefnogi eich plentyn a’ch bod yn gweithio gyda’r ysgol neu’r lleoliad ieuenctid i roi diwedd ar y bwlïo

Dylai ysgolion a lleoliadau ieuenctid gofnodi ac ymchwilio i bob honiad o fwlïo, a dylid eich hysbysu o unrhyw ddatblygiadau. Os nad ydych yn fodlon, gallwch gwyno trwy siarad ag athro, y prifathro neu trwy ysgrifennu at lywodraethwyr yr ysgol. Yn ogystal, gallwch siarad â’r oedolyn â gofal am y lleoliad ieuenctid neu ysgrifennu at y rheolwr.

In some circumstances, the NYAS (National Youth Advocacy Service) (0800616101) may be able to provide confidential legal advice and representation.

Reportio bwlïo yn y gymuned

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo yn y gymuned (e.e. yn y parc neu yn y gymdogaeth), dywedwch wrth yr Heddlu. I gael manylion cyswllt, gweler ble fedraf i gael cymorth?

Cadw eich cofnod eich hun

Yn ogystal, gall fod yn ddefnyddiol cadw eich cofnod eich hun o bwy sy’n gwneud beth a phryd, oherwydd bydd yn gymorth i’r oedolyn â gofal i roi trefn ar y mater yn gyflym. Mae rhai plant a phobl ifanc yn credu bod cadw dyddiadur o’r hyn sy’n digwydd yn eu cynorthwyo. Gallwch lawrlwytho dyddiadur enghreifftiol yma.