Sut fedraf ei reportio?

Y peth pwysicaf i’w wneud os wyt ti’n cael dy fwlïo (neu rywun ti’n ei nabod) yw dweud wrth rywun. Paid â chadw’r peth i ti dy hun. Paid â dioddef yn ddistaw.

Dywed wrth … rywun ti’n ymddiried ynddo
Dywed wrth … athro neu weithiwr ieuenctid
Dywed wrth … riant, cynhaliwr neu warcheidwad
Dywed wrth … ffrind
Dywed wrth … frawd neu chwaer
Dywed wrth … gefnogwr cyfoedion neu gyfaill cae chwarae
Dywed wrth … yr heddlu
Dywed wrth … weithiwr cymdeithasol
Dywed wrth … rywun!

Os ddywedi di wrth oedolyn â gofal, fe fydd yr oedolyn yn gweithredu. Os nad wyt ti’n fodlon gyda’r modd mae’r oedolyn yn ymdrin â’r mater, dywed wrth oedolyn â gofal arall. Heb help oedolyn â gofal, mae’n medru bod yn anodd iawn i roi diwedd ar y bwlïo, felly cadw i ddweud wrth bobl!

Os ddywedi di wrth athro, gweithiwr ieuenctid neu’r heddlu am y bwlïo, byddan nhw eisiau trafod y peth gyda thi. Dylen nhw ysgrifennu popeth rwyt ti’n ei ddweud wrthyn nhw i lawr, a byddant yn dweud wrthyt ti beth maen nhw’n mynd i’w wneud i dy helpu. Os oes arnat ti ormod o ofn dweud wrth oedolyn am y bwlïo, gofyn i ffrind neu rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo i dy helpu. Mae’n bosib bod gan dy ysgol gefnogwyr cyfoedion neu gyfeillion cae chwarae i dy helpu di. Os oes gan dy ysgol neu leoliad ieuenctid ‘flwch gofidiau’, gallu di roi nodyn yn y blwch.

Cadw dy gofnod dy hun

Weithiau gall fod yn gymorth i gadw dyddiadur o’r hyn sy’n digwydd. Mae’n bosib bydd dangos y dyddiadur i oedolyn â gofal yn eu helpu i ddatrys y mater yn gyflym. Os wyt ti’n gwybod am rywun arall sy’n cael ei fwlïo, gallu di gadw dyddiadur o’r hyd ti’n gwybod sy’n digwydd i’r person hwnnw. Gallu di lawrlwytho dyddiadur bwlïo yma.