Beth yw bwlio?

Gwahoddir pob asiantaeth i fabwysiadu diffiniad o fwlïo Torfaen, a ddatblygwyd gan blant, pobl ifanc ac oedolion yn y fwrdeistref:

"Mae bwlïo’n camddefnyddio anghydbwysedd pwer i achosi niwed emosiynol neu gorfforol i berson arall neu i grwp o bobl, dro ar ôl tro, a hynny’n fwriadol. Ni ddylai achosion unigol o ymddygiad sy’n brifo, poeni neu gweryla rhwng unigolion sydd â phwer cyfartal, gael ei weld fel bwlïo”

Bullying generally takes one of four forms:

  • Verbal
  • Physical
  • Indirect
  • Cyber

Although not an exhaustive list, common examples of bullying include:

  • Racial bullying
  • Homophobic bullying
  • Sexual bullying

Yn ogystal, mae bwlïo’n medru bod yn seiliedig ar anabledd, gallu, cenedl, golwg neu amgylchiad.

Mae’n bwysig wrth ymdrin ag achosion honedig o fwlïo, bod safbwyntiau unigol yn cael eu dwyn i ystyriaeth. Os yw plentyn, person ifanc neu oedolyn yn datgan fod bwlïo’n digwydd, mae’n rhaid cymryd camau i benderfynu pam y gwnaethpwyd yr honiad hwn. Bydd yna achlysuron pan fod plant a phobl ifanc yn brifo eraill yn gorfforol neu’n emosiynol heb feddwl gwneud hynny, ac mae’n bwysig bod cymorth priodol yn cael ei roi i’r ddwy ochr, ond nid oes angen labelu’r ymddygiad hwn yn fwlïo. Mae’n bwysig hefyd i gadw mewn cof y gellid trin achosion eithafol o fwlïo, sy’n cynnwys aflonyddu, fel trosedd.