Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel Rheolwr Data, yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio’n gwasanaethau. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yma’n esbonio sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi a sut yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd.

Mae gennym ni Swyddog Diogelu Data sy’n sicrhau ein bod yn parchu eich hawliau ac yn dilyn y gyfraith. Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau ynglŷn â sut yr ydym yn edrych ar ôl eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB DPA@Torfaen.gov.uk neu drwy ffonio 01633 647467. (Rhif Cofrestru’r SCG Z4809045)

Nodwch nad yw’r Gwasanaeth Gwrth-fwlio yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol.

Cwcis (nid i’w bwyta) a sut i ddefnyddio’r wefan hon

I wneud y wefan yma’n fwy hawdd ei defnyddio, rydym weithiau’n gosod ffeiliau testun bach ar eich dyfais (er enghraifft eich iPad neu liniadur) a elwir yn gwcis. Mae’r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn hefyd.

Maen nhw’n gwella pethau trwy:

  • gofio’r pethau yr ydych wedi eu dewis tra byddwch ar ein gwefan, fel nad oes rhaid i chi eu mewnosod eto pan fyddwch yn ymweld â thudalen newydd
  • cofio data yr ydych wedi ei roi (er enghraifft, eich cyfeiriad) fel nad oes rhaid i chi barhau i’w mewnosod
  • mesur faint yr ydych yn defnyddio’r wefan fel y gallwn sicrhau ei bod yn cwrdd â’ch anghenion

Trwy ddefnyddio’n gwefan, rydych yn cytuno y gallwn osod y mathau yma o gwcis ar eich dyfais.

Nid yw’n cwcis yn cael eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol. Maen nhw yma i wneud i’r safle weithio’n well i chi. Gallwch reoli a/neu ddileu’r ffeiliau yma fel y dymunwch.

I ddysgu am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i AboutCookies.org.

Am fwy o wybodaeth am y cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan darllenwch y Polisi ar gwcis .

Ble gallaf gael cyngor?

Os oes gennych chi bryderon neu gwestiynau ynglŷn â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data ar DPA@Torfaen.gov.uk neu drwy ffonio 01633 647467 neu’n ysgrifenedig at Y Swyddog Diogelu Data, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Am gyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
2il Lawr
Churchill House
Churchill Way
CAERDYDD
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 0292 067 8399