Beth yw bwlio?

Mae bwlïo’n digwydd pan fod person yn gas yn fwriadol i berson arall, tro ar ôl tro, heb fod y person hwnnw’n medru amddiffyn ei hun.

Yn gyffredinol, mae bwlïo ar un o dair ffurf:

  • Llafar (e.e. galw enwau)
  • Corfforol (e.e. taro)
  • Anuniongyrchol (e.e. eithrio, taenu sïon)

Mae enghreifftiau cyffredin o fwlïo’n cynnwys:

  • Bwlïo hiliol (yn seiliedig ar liw croen, diwylliant neu grefydd)
  • Bwlïo homoffobig (yn seiliedig ar dueddfryd rhywiol)
  • Bwlïo ar sail Anabledd (yn seiliedig ar anabledd neu anhawster dysgu)
  • Seiberfwlïo (trwy gyfrwng ffôn symudol neu ar y rhyngrwyd)

Yn ogystal, mae bwlïo’n medru bod yn seiliedig ar olwg, gallu, cenedl, ymddygiad rhywiol amhriodol neu amgylchiadau’r cartref (e.e. cynhaliwr ifanc, plentyn sy’n derbyn gofal).

Ni ddylai achosion unigol o ymddygiad sy’n brifo, poeni neu gweryla rhwng unigolion sydd â phwer cyfartal, gael eu gweld fel bwlïo.