Cwestiynau a ofynnir yn aml

Sut fyddai’n gwybod os ydw i’n cael fy mwlïo?

Os oes rhywun yn gas i ti’n fwriadol, dro ar ôl tro, ac nid oes modd i ti amddiffyn dy hun, mae’n debygol iawn dy fod yn cael dy fwlïo.

Sut fedraf i osgoi cael fy mwlïo?

Mae pob bwli eisiau ymateb. Mae’n naturiol dy fod yn teimlo’n ofnus, ond y peth gorau i’w wneud yw cerdded i ffwrdd a dweud wrth rywun. Weithiau mae’n anodd anwybyddu’r bwli, ond bydd taro’n ôl yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Bydd y canlynol yn helpu:

  • Aros i fyny’n syth
  • Cadw cyswllt llygaid
  • Cymer anadl ddofn a dywed NA
  • Cerdda i ffwrdd
  • Ymarfer bod yn bendant (ond nid yn ymosodol) yn y drych

Hefyd, mae modd i ti ymarfer y ‘record wedi’i thorri’ a ‘niwlio’.

  • Mae’r record sydd wedi’i thorri’n swnio fel record sy’n sownd mewn rhigol neu CD sydd wedi cael ei chrafu, oherwydd dy fod ti’n cadw ailadrodd yr un peth nes i’r bwlïo i ddod i ben. Mae’n mynd ymlaen ac ymlaen! (e.e. na, chei di ddim o fy arian i, na, chei di ddim o fy arian i, na, chei di ddim o fy arian i ...)
  • Mae niwlio’n golygu peidio â rhoi’r ymateb mae’r bwli ei eisiau iddo. Y syniad yw troi i mewn i niwl neu ‘lyncu’ yr hyn mae’r bwli’n ei ddweud. (e.e. dyna dy farn di, pa wahaniaeth os nad yw fy nhreinars i’n cwl)

Nad yw bwlïo’n rhan arferol o dyfu i fyny?

Na, nid yw bwlïo’n rhan arferol o dyfu i fyny. Mae gan bob plentyn hawl i fyw heb ofn cael ei fwlïo.

Beth os ydw i wir ofn y bwli?

Mae llawer o bobl yn ofni’r bobl sy’n eu bwlïo. Mae hyn yn naturiol, felly’r peth gorau i’w wneud yw cael rhywun i dy helpu (e.e. ffrind, aelod o’r teulu, athro, heddlu).

Na fydd y sefyllfa’n mynd yn waeth os fyddai’n dweud wrth rywun am y bwlïo?

Na – y ffordd orau o roi diwedd ar fwlïo yw dweud wrth rywun, fel eu bod yn medru dy helpu.

A fyddai’n dod trwyddi ryw ddiwrnod?

Mae cael dy fwlïo’n brofiad ofnadwy, ond wrth siarad am y peth gyda phobl eraill a chael help, byddi di’n dechrau teimlo’n well. Os wyt ti’n teimlo’n drist iawn oherwydd i ti gael dy fwlïo, neu oherwydd i ti fwlïo rhywun arall, y peth gorau i’w wneud yw siarad am y peth gyda rhywun arall. Dywed wrthyn nhw sut oedd yn gwneud i ti deimlo a sut fedran nhw dy helpu.

Yn ogystal, gweler ble fedraf i gael cymorth.