Datrys Sefyllfa

Pan fod bwlïo’n cael ei reportio, dylai staff bob amser:

  • Ei gymryd o ddifrif
  • Ffeindio lle tawel i siarad
  • Aros yn ddigynnwrf
  • Gofyn, yn sensitif, beth sydd wedi bod yn digwydd
  • Cofnodi’r honiad
  • Trafod gyda’ch gilydd pa gamau y dylid eu cymryd nesaf
  • Cysuro’r person ifanc y byddwch yn helpu i roi stop ar y bwlïo
  • Gwrando ar eu hanghenion a’u cefnogi i’w oresgyn
  • Diweddaru’r person ifanc o’r cynnydd a wnaed nes bod y mater wedi cael ei ddatrys

Ymchwilio i honiadau o fwlïo

Mae’r elusen genedlaethol ‘Bullying UK’ yn rhoi’r cyngor canlynol ar gyfer ymchwilio i honiadau o fwlïo:

  • Crynhowch y ffeithiau i gyd oddi wrth y ddwy ochr, yn cynnwys unrhyw dystion
  • Cofiwch ei bod hi’n bosib eich bod yn ymdrin â nifer o ffrindiau sy’n rhoi fersiynau tebyg o’r digwyddiadau, sy’n wahanol i’r rhai hynny a roddwyd gan y ‘dioddefwr’
  • Ceisiwch gyfweld y bobl ifanc sydd wedi cael eu cyhuddo o fwlïo yn y fath fodd fel nad oes cyfle ganddynt i ddod at ei gilydd i greu storïau
  • Esboniwch wrth y person(au) ifanc a gyhuddir o fwlïo beth yn union y maent wedi cael eu cyhuddo o wneud, a gofynnwch iddo ef/iddi hi i ysgrifennu’n union beth ddigwyddodd yn eu tyb nhw, pwy oedd yno a beth arweiniodd at y digwyddiad
  • Os ydych wedi penderfynu bod achos o fwlïo wedi digwydd, bydd angen i chi benderfynu sut i fwrw ymlaen a pha gosbau sy’n addas

Wrth ymchwilio i fwlïo, mae’n bwysig bod aelod o staff y mae’r ‘dioddefwr’ yn medru siarad yn agored ag ef yn cael ei glustnodi. Mae’n bosib bydd angen cynnwys rhieni/cynhalwyr y rhai hynny yr honnwyd eu bod yn gysylltiedig â’r ymddygiad o fwlïo yn yr ymchwiliad, i holi eu plant am eu rôl.

Gweithio gyda’r rhai hynny sydd wedi bod yn cael eu bwlïo

Yn aml, bydd hunan-barch a hyder person ifanc sydd wedi cael ei fwlïo’n gostwng yn ddramatig. Dylid gweithio i gywiro hyn, a’u cysuro fod llawer o bobl yn cael eu bwlïo ac nad ydynt ar eu pennau hunain. Yn y pen draw, mae’n rhaid i’r bwlïo i ddod i ben. Os yn bosib, gellir defnyddio arfer adferol i alluogi’r sawl sydd wedi cael ei fwlïo i gael y sawl a fu’n ei fwlïo i gydnabod y niwed y mae wedi’i achosi. Gweler y canllawiau arfer da i gael fwy o fanylion.

Gweithio gyda’r rhai hynny sydd wedi bod yn bwlïo

Mae gweithio gyda’r rhai hynny sy’n ymwneud ag ymddygiad o fwlïo yn galw am amser a sgiliau. Yn aml, mae angen canolbwyntio ar geisio cael y rhai hynny sy’n bwlïo i uniaethu gyda’r ‘dioddefwr’ ac i amgyffred y trallod a achoswyd (fel sail ar gyfer ymddiheuriad diffuant). Yn ogystal, mae angen rhoi pwyslais ar weithio trwy’r hyn sy’n gorwedd tu ôl i’r awydd i ymarfer awdurdod dros eraill ac ailadeiladu eu hymagwedd at berthnasau. Defnyddir yr ‘ymagwedd grwp cefnogi’ ac ‘arfer adferol’ yn helaeth i ddatrys bwlïo (gweler yr canllawiau arfer da).