Beth yw bwlio?

Mae bwlïo’n digwydd pan fod rhywun yn gas i ti, dro ar ôl tro, yn fwriadol, heb dy fod ti’n medru amddiffyn dy hun.

Dyma sut mae dau berson ifanc yn Nhorfaen yn disgrifio bwlïo:

"Ystyr bwlïo yw defnyddio ymddygiad ymosodol, neu alw enwau, tuag at unigolyn arall, am eu bod yn wahanol mewn rhyw ffordd". Toby, 16

"Mae bwlïo fel cannwyll, nid yw’n diffodd mewn gwirionedd hyd nes i rywun wneud rhywbeth i’w ddiffodd". Sarah, 14

Nid yw bwlïo’n cynnwys achosion unigol o ymddygiad sy’n brifo, cweryla rhwng ffrindiau na phoeni chwareus.

Ar ba wahanol ffurfiau mae’n medru bod?

Mae bwlïo’n medru bod yn beth corfforol (e.e. bwrw), llafar (e.e. galw enwau) neu’n beth anuniongyrchol (e.e. eithrio o gemau, taenu sïon). Mae seiberfwlïo yn digwydd pan fod rhywun yn anfon negeseuon niweidiol ar e-bost, ffôn symudol neu ar y rhyngrwyd.

Mae’r mwyafrif o bobl yn cael eu bwlïo oherwydd eu bod yn wahanol yn rhyw ffordd, ond nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Mae rhai pobl yn cael eu bwlïo oherwydd y ffordd maen nhw’n edrych, lliw eu croen, eu hil neu eu diwylliant, eu hedrychiad, eu hanabledd, eu gallu, eu tueddfryd rhywiol, eu cenedl, eu cyflwr iechyd neu eu hamgylchiadau teuluol.

Mae angen i bob un ohonom ni i gofio, mae bod yn wahanol yn beth da!