Sut iw stopio?

Beth os ydw i’n cael fy mwlïo?

Os wyt ti’n credu dy fod yn cael dy fwlïo, dylet ti drafod y peth gyda rhywun yn syth. Dywed wrth dy deulu neu warcheidwad, ffrind neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo. Paid â tharo’n ôl, bydd yn gwneud y sefyllfa’n waeth.

Os wyt ti’n cael dy fwlïo yn yr ysgol, dywed wrth athro. Mae’n bosib fod gan dy ysgol gefnogwyr cyfoedion neu gyfeillion cae chwarae i ti gael siarad â nhw, neu flwch gofidiau i ti gael rhoi nodyn ynddo. Os wyt ti’n cael dy fwlïo mewn clwb ieuenctid neu yn rhywle arall ble mae pobl ifanc yn ymgynnull (e.e. canolfan hamdden neu gwt sgowtiaid), dywed wrth oedolyn â gofal. Os wyt ti’n cael dy fwlïo wrth chwarae ar y stryd neu yn y parc, dywed wrth yr heddlu. Yr unig ffordd i roi diwedd ar fwlïo yw dweud wrth rywun.

Beth os ydw i’n nabod rhywun sy’n cael ei fwlïo?

Os wyt ti’n nabod rhywun sy’n cael ei fwlïo, dylet ti ofyn ydyn nhw’n iawn ac a ydyn nhw eisiau help. Mae gwrando’n unig yn medru bod yn help, felly bydd yn amyneddgar a gad iddyn nhw ddweud wrthyt ti beth sy’n digwydd. Efallai byddan nhw eisiau help i ddweud wrth oedolyn. Os gweli di rywun yn cael ei fwlïo, paid ag aros i wylio, gwna rywbeth. Y peth mwyaf diogel i’w wneud yw dweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo.

Beth os mai fi yw’r bwli?

Os wyt ti’n bwlïo rhywun arall, mae angen i ti feddwl yn ofalus am dy ymddygiad a rho ddiwedd arno. Wyt ti’n drist neu’n ddig am rywbeth? Os felly, dylet ti geisio siarad â rhywun. Os ddywedi di wrth rywun dy fod yn bwlïo rhywun arall, byddant yn dy helpu i roi diwedd ar y bwlïo ac yna bydd pawb yn teimlo’n well!

Beth arall fedraf i ei wneud i helpu?

Mae Wythnos Gwrth-fwlïo (ar ddiwedd Tachwedd fel arfer) yn amser gwych i helpu i roi diwedd ar fwlïo, ond gallu di wneud hyn trwy gydol y flwyddyn trwy ddangos i bobl dy fod ti’n credu bod bwlïo’n anghywir. Trwy lynu wrth bobl eraill sy’n credu bod bwlïo’n anghywir, byddi di’n fwy diogel. Os wyt ti’n mynychu’r ysgol neu’r coleg, gallu di sefydlu grwp cefnogi neu ofyn p’un ai y cei di hyfforddi i fod yn gefnogwr cyfoedion neu’n gyfaill cae chwarae. Gallu di ofyn a chei di ymuno â chyngor yr ysgol, Cyngor Ieuenctid Cwmbrân neu Bont-y-pwl neu Fforwm Pobl Ifanc Torfaen. A dweud y gwir, fe wnaeth Fforwm Pobl Ifanc Torfaen helpu i greu’r wefan hon!

Mae yna ddolenni i wefannau eraill sy’n llawn syniadau da ar y dudalen Ble fedraf i gael cymorth?.