Ble fedraf i gael cymorth?

Dylai pob ysgol a lleoliad ieuenctid fod yn medru eich helpu i ddod o hyd i ateb i’r pryderon sydd gennych am fwlïo. Yn ogystal, dylai fod gan ysgolion aelod o staff sy’n medru dweud wrthych am y cynlluniau cefnogi cyfoedion a sesiynau cwnsela maent yn eu cynnig. Os ydych chi angen cymorth ychwanegol, mae’n bosib bydd y canlynol o gymorth i chi:

Mae gan Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wasanaeth cwnsela pobl ifanc a chynllun mentora a arweinir gan gyfoedion (01633 875851). Os ydych yn pryderu fod eich plentyn yn cael ei fwlïo neu ei fod yn bwlïo plant eraill yn y gymuned, gallwch gysylltu â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (01495 763702) neu Heddlu Gwent (Cwmbrân – 01633 642088; Pont-y-pwl - 01495 232452).

Mae gan y gwefannau canlynol lawer o gyngor da i rieni a chynhalwyr:

Yn ogystal, mae llinell ffôn rhieni Kidscape (08451 205204) a llinell ffôn Parentlineplus (0808 800 2222) yn medru bod yn ffynonellau defnyddiol o gyngor.

Anabledd

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo oherwydd anabledd neu anhawster dysgu, mae’n bosib bydd y Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig yn medru rhoi cymorth ychwanegol. Cyfeiriad y wefan yw www.snapcymru.org a’u rhif ffôn yw 01633 246897.

Homoffobia

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo oherwydd ei dueddfryd rhywiol, mae’n bosib bydd EACH yn medru cynnig cyngor a chyfarwyddyd. Cyfeiriad eu gwefan yw www.eachaction.org.uk a’u rhif ffôn yw 0808 1000 143. Yn ogystal, mae gan Dorfaen grwp cefnogi a gwasanaeth cwnsela Lesbiaid, Hoywon, Deurywiaid a Thrawsrywiaid i bobl ifanc. Gellir cysylltu â gweithiwr prosiect Rainbow ar 01495 752333 ac mae Canolfan Ragoriaeth LHDT Cymru yn cynnig llinell gymorth ar 0800 023 2201.

Hiliol

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo oherwydd ei hil, ei ddiwylliant neu ei grefydd, mae’n bosib bydd Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd yn medru bod o gymorth ar 01443 742704. Mae’n bosib bydd Gwasanaeth Cefnogaeth Lleiafrifoedd Ethnig Gwent yn medru bod o gymorth ar 01633 255473.

Seiber

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo trwy gyfrwng ffôn symudol neu ar y rhyngrwyd, medrwch ei reportio ar www.thinkuknow.co.uk. Mae’r gwefannau canlynol www.digizen.org a www.wisekids.org.uk yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar daclo seiberfwlïo hefyd.

Os ydych chi angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â Chydlynydd Gwrth-fwlïo Torfaen ar 07943808011, os gwelwch yn dda.