Ble fedraf i gael cymorth?

Mae llawer o leoedd yn cynnig cymorth i ti i roi diwedd ar fwlïo. Y peth gorau i ti ei wneud os wyt ti (neu rywun ti’n ei nabod) yn dioddef bwlïo, yw dweud wrth rywun am y peth. Mae modd i ti gael cyngor a gwybodaeth ar y gwefannau a’r llinellau cymorth isod. Mae gan bob llyfrgell yn Nhorfaen fynediad i’r rhyngrwyd.

Mae gan Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wasanaeth mentora a chwnsela i bobl ifanc rhwng 14-25 oed (01633 875851) ac mae gan bob ysgol uwchradd yn Nhorfaen wasanaeth cwnsela. Bydd y cwnsleriaid yn fwy na bodlon siarad â ti am broblemau megis bwlïo. Mae’n bosib bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn medru helpu, os wyt ti’n teimlo dy fod yn cael dy drin yn annheg (0800 616101).

Os wyt ti’n cael dy fwlïo oherwydd dy fod yn anabl neu fod gen ti anhawster dysgu, gofyn i dy athro i gael siarad â Chydlynydd Anghenion Ychwanegol yr ysgol. Yn ogystal, mae modd i ti siarad â dy weithiwr cymdeithasol, os oes gen ti un, ac edrych ar y gwefannau canlynol www.mencap.org.uk a www.snapcymru.org .

Os wyt ti’n dioddef bwlïo homoffobig, edrych ar wefan Stonewall i gael mwy o gyngor www.stonewall.org.uk.

Os wyt ti’n byw mewn gofal maeth, mae modd i ti drafod bwlïo gyda dy weithiwr cymdeithasol. Yn ogystal, cei ofyn i dy athro i gael siarad â Chydlynydd Plant sy’n Derbyn Gofal dy ysgol.

Os wyt ti’n Gynhaliwr Ifanc a dy fod ti eisiau siarad â rhywun am fwlïo, ffonia’r tîm Cynhalwyr Ifanc ar 01495 769996.