Cynghorion gorau

Fel rhiant, cynhaliwr neu warcheidwad, rydych yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu eich plentyn rhag bwlïo. Mae’r cynghorion isod yn gymorth i grynhoi eich rôl:

  • Byddwch yn ymwybodol o beth yw bwlïo a byddwch yn effro i’r arwyddion a’r symptomau
  • Trafodwch fwlïo, hyd yn oed pan nad yw’n effeithio ar eich teulu, fel bod eich plant yn deall beth yw bwlïo a beth i’w wneud ynglyn â’r peth
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall ddweud wrthych am unrhyw beth sy’n ei ofidio
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod at bwy mae troi i drafod unrhyw bryderon yn yr ysgol neu mewn lleoliad ieuenctid
  • Cefnogwch eich plentyn a gweithiwch gyda’r oedolyn â gofal i helpu i roi diwedd ar y bwlïo
  • Byddwch yn batrwm ymddwyn da
  • Helpwch eich plentyn i ddeall a pharchu’r hyn sy’n wahanol
  • Peidiwch byth â dweud wrth eich plentyn am daro’n ôl, bydd hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i roi diwedd ar y bwlïo
  • Casglwch dystiolaeth o fwlïo os medrwch chi (e.e. cadwch/argraffwch negeseuon cas)
  • Mynnwch gyngor a chymorth oddi wrth eich teulu, eich ffrindiau, llinellau cymorth a gwefannau

Yn ogystal, gwelwch Sut fedraf i gynorthwyo fy mhlentyn?

Gallwch lawrlwytho peth cyngor da a roddir gan elusennau isod: