Sut fedraf i gynorthwyo fy mhlentyn?

Er bod pob sefyllfa’n wahanol, rhoddir peth cyngor cyffredinol isod.

Atal bwlïo

Siaradwch yn agored gyda’ch plant am beth yw bwlïo a pham mae’n digwydd. Sicrhewch eu bod yn gwybod at bwy mae troi i siarad os yw bwlïo’n broblem iddynt.

Adnabod yr arwyddion

Mae’n medru bod yn anodd gwybod os yw eich plentyn yn cael ei fwlïo, ond mae’r arwyddion canlynol yn medru bod yn gysylltiedig â bwlïo:

  • Newid sydyn mewn grwpiau o ffrindiau
  • Dim awydd mynd i’r ysgol neu i leoliad ieuenctid
  • Ofn cerdded i’r ysgol neu i leoliad ieuenctid
  • Afiechyd sydyn (e.e. poenau yn y stumog, gwlychu’r gwely, cur pen)
  • ‘Colli’ eiddo
  • Anafiadau cuddiedig
  • Newid sydyn mewn ymddygiad (e.e. plentyn yn mynd i’w gragen, pryderus, ymosodol)

Siarad â’ch plentyn

Os credwch fod eich plentyn yn cael ei fwlïo, anogwch ef/hi i siarad am y peth. Gwrandewch ar beth mae’n ei ddweud a gofynnwch sut fedrwch chi helpu.

  • Ffeindiwch rywle tawel i siarad
  • Arhoswch yn ddigynnwrf
  • Cysurwch y plentyn nad ef/hi sydd ar fai am ei fod yn cael ei fwlïo
  • Ceisiwch ddarganfod, mewn modd sensitif, pwy sy’n gysylltiedig, am faint o amser mae hyn wedi bod yn digwydd a beth sydd wedi bod yn digwydd
  • Trafodwch gyda’ch gilydd pa gamau y dylid eu cymryd
  • Gofynnwch i’r plentyn beth mae ef/hi eisiau gwneud am y peth
  • Esboniwch y byddwch yn helpu i roi diwedd ar y bwlïo
  • Cysylltwch â’r ysgol neu’r lleoliad ieuenctid i ddatrys y mater

Rhoi diwedd ar y bwlïo

Helpwch eich plentyn i roi diwedd ar y bwlïo.

  • Anogwch y plentyn i reportio’r bwlïo
  • Cynghorwch y plentyn i beidio â tharo’n ôl
  • Awgrymwch y plentyn i gadw dyddiadur o beth sy’n digwydd - gellir ei ddangos i’r ysgol neu’r lleoliad ieuenctid, gyda chaniatâd y plentyn
  • Gweithiwch ochr yn ochr â’r ysgol neu’r lleoliad ieuenctid i helpu i roi diwedd ar y bwlïo
  • Meddyliwch am ymatebion priodol i’r bwlïo y gallai eich plentyn eu defnyddio (e.e. dweud na’n bendant, cadw cyswllt llygaid, cerdded i ffwrdd)
  • Chwarae rôl o wahanol ffyrdd o anwybyddu’r bwlïo
  • Helpwch i godi hyder a hunan-barch y plentyn trwy ei ganmol am ei gryfderau
  • Dewch o hyd i weithgareddau cymdeithasol i helpu’r plentyn i wneud ffrindiau newydd

Yn ogystal, gwelwch ble fedraf i gael cymorth? a beth os yw fy mhlentyn yn bwlïo plentyn arall?