Wythnos Gwrth-fwlio

Ymgyrch genedlaethol yw Wythnos Gwrth-fwlïo, a gynhelir bob blwyddyn tua diwedd mis Tachwedd. Mae’n rhoi cyfle i bob un ohonom i edrych ar sut yr ydym yn helpu i daclu bwlïo, a beth fedrwn ni ei wneud i greu ymwybyddiaeth bellach ymhlith plant, pobl ifanc, staff a rhieni/cynhalwyr.

Mae rhai lleoliadau plant yn cynnal cystadlaethau poster, yn prynu cynyrchiadau theatr, yn cynnal gweithdai penodol, gwasanaethau â thema, yn paratoi blychau gofidiau ac yn gwneud safiadau unedig yn erbyn bwlïo.

Medrwch fod mor greadigol ag y mynnwch, cyhyd â bod y neges o ddweud na i fwlïo’n cael ei chyfleu. Yn ogystal, gall fod yn amser da i wahodd rhieni a chynhalwyr i weld y gwaith gwrth-fwlïo yr ydych yn ei wneud. Mae llawer o leoliadau plant yn ei weld yn amser da i ganolbwyntio egni ar adolygu polisïau a gwahanol gynlluniau gwrth-fwlïo (e.e. cefnogi cyfoedion).