Creu Ymwybyddiaeth

Mae gweithgareddau gwrth-fwlïo rheolaidd yn medru helpu i sicrhau fod gan bawb ddealltwriaeth gyfrannol o beth yw bwlïo a sut y dylid ymdrin ag ef. Er bod Wythnos Gwrth-fwlïo’n gyfle gwych ar gyfer ymgyrchoedd ysgol/cymuned gyfan, mae angen i’r neges gwrth-fwlïo i fod yn barhaus, gyda gweithdai’n cael eu cynnal i daclu materion penodol. Mae ysgolion yn medru mabwysiadu ymagwedd drawsgwricwlaidd at greu ymwybyddiaeth o fwlïo, a dylai’r holl staff deimlo’n hyderus eu bod yn gwybod beth yw bwlïo a’u bod nhw felly’n medru creu ymwybyddiaeth o beth y dylid ei wneud ynglyn â’r peth. Medrwch lawrlwytho siarter gwrth-fwlïo yma.

Mae posteri a byrddau gwybodaeth ym medru helpu i greu ethos gwrth-fwlïo, a dylid defnyddio amryw o adnoddau i daclu bwlïo mewn gwahanol ffyrdd. Mae amser cylch yn darparu amgylchedd priodol i blant a phobl ifanc i fynegi eu barnau am fwlïo mewn lle diogel a saff, ble mae barn pawb yn cael ei barchu a’i glywed (Bliss and Tetley, 1993). Mae rheolau syml a chadarnhaol yn cymell y grwp i ganolbwyntio ar eu teimladau a theimladau pobl eraill, i wrando ar ei gilydd ac i fod yn oddefgar i farnau pobl eraill (Mosley, 1996). Gellir trafod bwlïo gan ddefnyddio ymagwedd datrys problemau.