Reportio a Chofnodi

Os ydym ni am lwyddo wrth daclu bwlïo, mae’n hollbwysig fod yr holl ddigwyddiadau o fwlïo’n cael eu cofnodi, eu reportio a’u gweithredu yn eu cylch yn briodol. Dylai fod gan yr holl blant a phobl ifanc fynediad i ddulliau niferus o reportio digwyddiadau o fwlïo, heb deimlo o dan fygythiad (e.e. aelodau o staff, blwch gofidiau, ffrind, e-bost), a dylai gwybodaeth am wahanol opsiynau reportio gael eu hyrwyddo a bod ar gael yn hawdd (e.e. posteri). Mae angen pwysleisio ‘diwylliant dweud’, ble mae gan blant a phobl ifanc hyder y bydd y sefyllfa’n gwella os fyddant yn reportio’r bwlïo.

Os caiff pob digwyddiad o fwlïo eu cofnodi a’u hymdrin yn briodol, bydd lleoliadau plant yn gweld gwelliannau mewn presenoldeb, cyrhaeddiad a’r berthynas gyda rhieni a theuluoedd. Trwy goladu gwybodaeth am ddigwyddiadau o fwlïo’n rheolaidd, bydd lleoliadau plant yn medru monitro a gwerthuso effaith eu polisïau a’u strategaethau. Gall cynllunio fod yn seiliedig ar angen gwirioneddol, a gall adnoddau penodol gael eu targedu ble mae eu hangen. Mae strategaeth gwrth-fwlïo Torfaen yn darparu taflenni enghreifftiol i gofnodi digwyddiadau o fwlïo ac mae’n argymell bod yr holl leoliadau plant yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a gadarnhawyd gyda’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn flynyddol. Yn ogystal, mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn awyddus i wybod am fwlïo a gadarnhawyd, a bydd yn ymdrechu i roi cymorth yn seiliedig yn y gymuned, ble bod hynny’n briodol.

Yn ogystal â chofnodi bwlïo y mae’r staff yn ymwybodol ohono, mae hefyd yn bwysig fod barnau plant a phobl ifanc yn cael eu harolygu, gyda golwg ar eu canfyddiadau eu hunain o faint o fwlïo sy’n digwydd a beth ddylid ei wneud am y peth. Gellir paratoi holiaduron syml (neu eu lawrlwytho oddi ar y we) i’r diben hwn, ac mae’n ddefnyddiol cymharu’r lefelau o fwlïo a gofnodwyd gan staff ac a reportiwyd gan bobl ifanc yn yr arolygon.

Gellir lawr lwytho copiau or ffurflenni recordio isod: